Ymwybyddiaeth Ofalgar Breathworks ar gyfer Iechyd
Mae Breathworks yn sefydliad hyfforddi Ymwybyddiaeth a gafodd ei ysbrydoli a’i sefydlu gan ddynes o'r enw Vidyamala Burch. Dioddefodd anafiadau difrifol i’w chefn fel oedolyn ifanc ac mae hi wedi gorfod byw gydag anabledd a phoen parhaus am lawer o'i bywyd. Mae’r cwrs Ymwybyddiaeth ar gyfer Iechyd wedi deillio o'i phrofiadau personol o ddefnyddio Ymwybyddiaeth i reoli ei chyflwr ac i'w chynorthwyo i fyw bywyd cystal â phosibl yng nghanol anawsterau.
Mae'r cwrs yn rhedeg dros 8 wythnos ac yn rhannu llawer sy’n gyffredin â chwrs Ymwybyddiaeth Lleihau Straen. Mae wedi'i gynllunio yn arbennig ar gyfer pobl sy'n dioddef poen parhaus, salwch, blinder neu straen sy'n effeithio ar eu hiechyd. Fel canlyniad, mae dull tyner iawn i’r cwrs ac un sy’n archwilio arferion o ddod ag ymwybyddiaeth garedig at ein profiad, beth bynnag fo’r profiad hwnnw. Mae'r dulliau, brofwyd trwy ymchwil, yn rhoi'r potensial i berson wella a thrawsnewid ansawdd ei fywyd.
I gyd-fynd gyda’r cwrs mae llawlyfr 'Ymwybyddiaeth ar gyfer Iechyd' gan Vidyamala Burch a Danny Penman. Yn 2014 fe’i dyfarnwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain fel y llyfr gorau ym maes meddyginiaeth boblogaidd.
Mae Tara yn athrawes ardystiedig ar gyfer Breathworks ac yn dod â phrofiad uniongyrchol a phersonol o fyw gyda phoen hirdymor a salwch i’w haddysgu.
Cyrsiau Breathworks sydd yn yr arfaeth
I gael mwy o wybodaeth am Breathworks ewch i’r wefan :
I ddarllen pennod gyntaf y llyfr Ymwybyddiaeth ar gyfer Iechyd, yn rhad ac am ddim, cliciwch yma
dychwelyd i beth ‘dan ni’n cynnig'