Amdanom ni
Rydym ni’n gywaith o athrawon seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar yng Ngogledd Cymru. Mae’r mwyfarif ohonom wedi darparu cyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar 8 wythnos trwy’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar ym Mhrifysgol Bangor. Mae llawer ohonom wedi dysgu ar raglen Meistr y Brifysgol mewn Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar ac wedi gweithredu fel goruchwylwyr a hyfforddwyr i athrawon Ymwybyddiaeth Ofalgar eraill.