Gwybodaeth Gyffredinol am Gyrsiau Ymwybyddiaeth Ofalgar
Mae’r holl gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar sy’n cael eu dysgu gan Ymwybyddydiaeth Ofalgar Gwynedd yn rhaglenni seciwlar. Er bod ganddynt eu gwreiddiau mewn athrawiaethau ysbrydol o draddodiadau gwahanol ar draws y byd, maen nhw o gymorth i bobl gyda chrefyddau gwahanol neu heb grefydd, ac nid yw’n angenrheidiol i gael unrhyw fwriadau ysbrydol i gael budd o ganlyniadau hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar.
Prif nod i’r cwrs ymwybyddiaeth ofalgar yw codi ein hymwybyddiaeth i’n galluogi i fyw bywyd yn llawnach yn awr, dysgu i fod yn fwy parod ar gyfer ymateb yn ddoeth i’r heriau yn ein bywyd, ac i fod yn fwy ymwybodol o’r profiadau pleserus sy’n digwydd yn barod. Rydym yn aml yn byw ein bywydau yn y gorffennol, yn hiraethu am y dyddiau a fu neu yn difaru neu’n anfodlon am rywbeth, neu mewn dyfodol wedi’i ddychmygu a allai fod yn llawn pryder neu ofn o lle rydym wedi gosod ein holl ddisgwyliadau hapusrwydd. Mae’r cwrs yn ein helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’n profiad presennol (meddyliau, emosiynau a synhwyriadau) fel y gallwn ddysgu sut i gamu allan o adweithiau awtomatig ac ymateb gyda mwy o ddewis i sefyllfaoedd ein bywyd.
Mae’r cyrsiau amrywiol sy’n cael eu cynnig yma oll yn seiliedig ar ymarferion dysgu myfyrio ac agwedd ofalgar at fywyd pob dydd. Mae gan bob cwrs bwyslais gwahanol sy’n cael ei ddisgrifio yn y manylion cwrs penodol.
Ymrwyniad ymarfer gartref – Mae’r cyrsiau yn dysgu drwy brofiad, ac er bod rhai agweddau addysgol i’r cyrsiau, eich ymarfer personol chi sydd wrth graidd pob un, yn y dosbarth a gartref. Mae Ymarfer Gartref yn rhan bwysig o bob cwrs. Ei ddiben yw sefydlu’r ymarferion i’r ffyrdd mae ein hymennydd a chyrff yn gweithio, ac felly i mewn i’n bywydau. Mae rhai gwahaniaethau mewn gofynion ymarfer gartref ar yr amrywiol gyrsiau. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan fel arfer yn cael eu cyfeirio at lawrlwythiadau awdio neu’n cael Cryno ddisgiau ar gyfer yr ymarferion amrywiol. Byddwch fel arfer yn cael llyfr cwrs neu daflenni i gyd-fynd â’r cwrs.
Mae sesiynau’r cwrs yn adeiladu ar ben ei gilydd felly mae’n bwysig i anelu at fynychu pob sesiwn os allwch chi, a sicrhau hefyd eich bod yn gallu creu gofod o hyd at awr y dydd i ymarfer. Mae hynny er mwyn i chi gael y budd mwyaf o’r cwrs.
Y Grŵp fel rhan o’r cwrs – Er ei bod yn bosibl i ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar ar sail unigol (gweler Ymwybyddiaeth Ofalgar 1-1) mae mwyafrif y cyrsiau yn cael eu rhedeg fel grŵp. Maint arferol grŵp yw tua 10 – 20 o bobl. Mae ymchwil wedi dangos llawer o fuddion o ddysgu grŵp ac mae’r rhan fwyaf o’r cyfanogwyr yn gweld y dull hwn yn un cefnogol iawn. Gall fod o gymorth i sylweddoli nad ydym ar ein pennau’n hunain yn ein brwydrau a gall hefyd fod yn ysbrydoliaeth i rannu gydag eraill sut rydym yn integreiddio’r ymarferion i’n bywydau pob dydd. Fodd bynnag nid yw hyn yn therapi grŵp, ac er bod cyfranogwyr yn cael eu hannog i rannu profiadau personol ynglŷn â’u dysgu am ymwybyddiaeth ofalgar, nid pwrpas y grŵp yw rhannu anawsterau personol yn gyffredinol. I rai pobl mae bod mewn grŵp o’r maint hwn yn gallu bod yn heriol, yn enwedig ar y dechrau. Tra bo elfen o waith pâr, trafodaeth grŵp bach ac ymholiad grŵp cyfan, dewisol yw holl agweddau’r cwrs ac nid oes rheidrwydd i rannu o flaen y grŵp.
Mae cytundeb ar y cyd i gyfrinachedd ym mhob grŵp, felly mae cyfranogwyr yn cytuno i gadw beth sy’n digwydd yn yr ystafell yn breifat, a bydd yr athro yn esbonio eu canllawiau eu hunain o Gyfrinachedd.
Dillad. Gan fod symud yn ogystal â bod yn llonydd yn rhan o’r cwrs mae’n ddoeth i wisgo haenau o ddillad cyfforddus, sydd ddim yn cyfyngu o gwmpas y canol, ac sy’n gallu cael eu hychwanegu/tynnu yn unol â thymheredd.
Gall holl symudiadau ymarfer gael eu haddasu i unrhyw broblemau corfforol neu feddygol (soniwch am unrhyw fanylion perthnasol ar eich ffurflen gais).
Offer. Gan ddibynnu ar y cwrs a’r lleoliad, gellir darparu offer fel matiau yoga, stoliau myfyrio a chlustogau. Os oes angen i chi ddod â’r rhain byddwch yn cael gwybod fel rhan o’ch proses geisio. Byddem yn eich cynghori i ddod â’ch blanced neu siôl eich hunan
Athrawon. Bydd ein holl athrawon wedi cael eu hyfforddi i gynnig y cwrs penodol yr ydych yn ei fynychu, ac maen nhw’n brofiadol yn y gwaith hwn. Bydd ganddynt bractis ymwybyddiaeth ofalgar personol hirsefydlog eu hunain
Ceisio am gwrs
Byddwch yn cael eich gwahodd i ateb rhai cwestiynau syml (fel arfer trwy ffurflen gais ysgrifenedig neu ar-lein). Bydd eich athro yn asesu a ydynt yn meddwl bod y cwrs yn briodol i chi ar hyn o bryd. Weithiau bydd athro yn eich ffonio i drafod mater arbennig cyn penderfynu a fyddai’r cwrs o gymorth. Er bod Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi cael ei gweld i fod yn fuddiol iawn mewn llawer o feysydd bywyd, mae rhai achlysuron ac amgylchiadau lle gallai cwrs fod yn anaddas, er enghraifft:
Digwyddiad mawr diweddar mewn bywyd – Pan rydym yn galaru, wedi cael profedigaeth neu golled arwyddocaol yn y flwyddyn ddiwethaf, gallwn brofi emosiynau sy’n llethol weithiau. Nid yw hyn yn amser da i ddysgu dull sy’n cynnwys dysgu symud tuag at deimladau anodd.
Caethiwed (e.e. alcohol, cyffuriau wedi’u rhagnodi neu anghyfreithlon). Gweithrediad mawr mewn caethiwed yw osgoi teimlo mewn ffyrdd arbennig. Gan fod ymwybyddiaeth ofalgar yn ymwneud â gallu derbyn ein teimladau’n gynyddol fel y maen nhw, nid yw’r dull hwn yn addas ar gyfer pobl sy’n gaeth ar hyn o bryd. Os ydych chi’n profi anhwylder bwyta mae’n bosibl na fydd yn eich atal rhag mynychu’r cwrs, ond byddai’n hanfodol i roi gwybod i’r athro am hyn fel rhan o’r broses asesu.
Iechyd meddwl. Os ydych chi wedi profi digwyddiad trawmatig yn ddiweddar gallai fod yn amhriodol i chi ymuno â chwrs ar hyn o bryd. Os oes gennych hanes o drawma mae’n bwysig i sôn am hyn wrth yr athro. Gallent benderfynu o hyd nad yw’r cwrs yn addas ond gallent gynghori ar gefnogaeth ychwanegol neu’ch bod yn addasu’r ymarferion mewn rhyw ffordd. Os ydych chi’n ddigalon ar hyn o bryd neu’n dioddef o seicosis mae’n annhebygol ei bod yn briodol i chi fynychu. Beth bynnag y bo’ch problem iechyd meddwl gall eich athro drafod a yw’r rhaglen arbennig mae gennych ddiddordeb ynddi yn addas; gallent hefyd eich cyfeirio at wasanaethau a chyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar eraill.