Ymwybyddiaeth Un-i-Un

Roedd y cwrs yn ymddangos fel iddo gael ei ysgrifennu gyda fy mywyd i mewn golwg.
— Cynthia, myfyriwr

Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei dysgu fynychaf mewn grŵp oherwydd y buddion mae’r fformat hwnnw’n cyflwyno i’r broses ddysgu.

Fodd bynnag, am resymau personol (e.e. ystyriaethau ymarferol mynychu cwrs neu faterion iechyd emosiynol neu gorfforol), weithiau mae’n well gan unigolion ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar ar sail 1 i 1 gydag athro.

Mae nifer o athrawon Ymwybyddiaeth Ofalgar Gwynedd yn cynnig y dull hwn o ddysgu, rhai ohonynt yn gynghorwyr a seicotherapyddion hefyd.

Bydd yr athro penodol a ddewiswch chi yn trafod sut i fynd o gwmpas hyn gyda’ch gilydd.

Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau ac anghenion a’r athro penodol ynghlwm, gallech ddewis canolbwyntio’n unig ar ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn sesiynau unigol neu Iigyfuno hyn gyda chynghori therapiwtig neu ddull seicotherapi.

Ewch i amdanom ni i ddysgu mwy am athrawon Ymwybyddiaeth Ofalgar Gwynedd.

Mae’r cwrs un-i-un yn fuddiol iawn. Mae’n eich galluogi i ofyn cwestiynau ac i fod yn gallu archwilio pob agwedd ar y cwrs. Gallaf ei argymell yn gryf i unrhyw un.
— .Simon, Peiriannydd Gwerthiant