Gwenan Roberts
Bu Gwenan yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol fel therapydd iaith lleferydd arbenigol a rheolwr am 36 mlynedd. Yno fe fu’n gweithio gyda plant ag oedolion gyda anableddau dysgu, awtistiaeth, anghenion cymhleth, troseddwyr ieuanc ac unigoion a oedd yn arddangos ymddygiad heriol.
Y mae’n dysgu Ymwybyddiaeth Ofalgar ers 2014, gan dderbyn tystysgrif dysgu MBCT ac MBSR o Brifysgol Bangor yn 2016, ac fe gwblhaodd MA yn 2018. Yr oedd ei thraethawd hir yn trafod addasu rhaglen wyth wythnos i’r Gymraeg, gan ganolbwyntio ar ddefnydd o eirfa, ieithwedd a cherddi i gyd fynd a’r rhaglen craidd.
Y mae hi yn dysgu MBSR yn y gweithle, ynghyd a rhaglen wedi ei haddasu ar gyfer rhieni plant a phobl ieuanc awtistig, ac oedolion awtistig ac anableddau dysgu.
Y mae hi’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ar gael i weithio gyda’r cyhoedd yn gyffredinol. Cysylltwch os ydych angen mwy o wybodaeth.