GM Heather photo final DSC_0081.jpeg

Heather Bolton

Mae Heather ar gael i gynnig MBSR, MBCT neu gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar wyth wythnos wedi eu lleoli yn y gwaith. Mae hi’n barod i ystyried datblygu a dyagu cyrsiau pwrpasol ar gyfer grwpiau diddordeb penodol. Mae hi hefyd yn gweithio wyneb yn wyneb yn unigol yn dysgu ymwybyddiaeth ofalgar neu yn ei integreiddio â seicotherapi. Mae Heather yn mwynhau datblygu ffyrdd o fynd â’i gwaith unigol a grŵp i’r awyr agored pan fo’n briodol.

Mae Heather yn seicotherapydd cofrestredig ac yn athrawes ymwybyddiaeth ofalgar. Hyfforddodd hi gyntaf fel cynghorwraig yn y 1980au hwyr ac mae ganddi flynyddoedd o brofiad mewn cefnogi pobl gydag amrywiaeth o heriau bywyd.

Mae hi’n teimlo ei bod wedi cael budd mawr o ymwybyddiaeth ofalgar ei hun ers ei chwrs MBSR 8 wythnos cyntaf yn 2004 ac mae hi wedi integreiddio ymwybyddiaeth ofalgar yn gynyddol i’w bywyd personol a gwaith. Hyfforddodd hi’n wreiddiol i ymgorffori ymwybyddiaeth ofalgar i mewn i’w gwaith therapi unigol fel Seicotherapydd Gestalt ond o 2012 dechreuodd ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar mewn amgylchedd grŵp.

Mae hi wedi dysgu 5 cwrs ymwybyddiaeth ofalgar wyth wythnos ar gyfartaledd y flwyddyn (MBSR,MBCT neu gyrsiau yn y gwaith) ers hynny mewn lleoliadau amrywiol.

Mae hi wedi gweithio i CMRP (Canolfan Gofal ac Ymchwil ac Ymarfer) ym Mhrifysgol Bangor, gan redeg cyrsiau I’r cyhoedd ac i grwpiau penodol fel yr henoed. Mae hi hefyd wedi gwneud llawer o waith i MIND gydag unigolion sy’n dioddef o amrywiaeth o anawsterau perthynol i straen a iechyd meddwl.