Therapi Gwybyddol yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT)
Mae MBCT wedi’i ddylunio’n benodol ar gyfer pobl sy’n dioddef pyliau cyson o iselder i helpu atal yr iselder rhag dod yn ôl. Mae’n cael ei weld yn fwyaf addas ar gyfer pobl sy’n iach ar hyn o bryd. Mae tystiolaeth yn dangos y gall MBCT leihau cyfradd llithro yn ôl i unigolion gydag iselder rheolaidd o 50%. Mae MBCT hefyd wedi cael ei weld i fod o gymorth i bobl sy’n dioddef gyadg amrywiaeth ehangach o broblemau hwyliau a phryder ar wahân i iselder.
Wrth ddatblygu eich ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ar gwrs MBCT gallwch ddisgwyl i:
- ailgysylltu â’ch profiad corff cyfan yn lle tueddu i fyw yn eich meddyliau
- dod yn fwy cyfarwydd a’r ffordd mae’ch meddwl yn gweithio ac i sylwi ar hen arferion y meddwl sy’n gallu eich baglu, gan sbarduno troelliadau am i lawr o bryder
- darganfod ffyrdd o ryddhau eich hun o ffyrdd arferol o adweithio fel y gallwch ddewis sut i ymateb orau i bethau
- eich helpu i archwilio ffyrdd newydd o ymagweddu at eich profiad dydd i ddydd sydd â phwyslais cryf ar fod yn llai beirniadol a mwy cydymdeimladol tuag at eich hun
- Sylwi ar y pethau bach mewn bywyd sy’n dod â harddwch a phleser sy’n cael ei golli mor aml oherwydd y duedd o fyw yn ein pennau
- Derbyn eich hun fel yr ydych chi yn hytrach na beirniadu’n barhaus a dymuno bod yn fersiwn well o’ch hunan.
Mae cyrsiau MBCT ar ffurf 8 o ddosbarthiadau wythnosol, a sesiwn trwy’r dydd sy’n cael ei chynnal tua wythnos 6. Mae casgliad o fyfyrdodau wedi’u cyfarwyddo yn dod gyda’r rhaglen, fel y gall cyfranogwyr ymarfer gartref unwaith y dydd, chwe diwrnod yr wythnos, trwy gydol y cwrs.
I glywed un o ddatblygwyr MBCT yr Athro Mark Williams yn siarad am hyn cliciwch ar y ddolen hon:
https://www.youtube.com/watch?v=KG4xaA3y948
Am wybodaeth arall am ymchwil cyfredol, ar ddigwyddiadau a hyfforddiant gweler Oxford Mindfulness Centre.
dychwelyd i beth ‘dan ni’n cynnig'