Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR)

Mwynheuais i’r cwrs yn llwyr, dysgais i gymaint, dw i’n edrych ymlaen rwan at ddatblygu fy ymwybyddiaeth ofalgar. Mae’n rhan o fy mywyd i rwan.
— Sion, rheolwr lletygarwch

Rhaglen yw hon a ddatblygwyd gan Jon Kabat-Zinn o’r 1970s yn Ysgol Feddygol Prifysgol Massachusetts, yr Unol Daleithiau. Tra bo gwreiddiau MBSR mewn athrawiaethau ysbrydol, mae’r rhaglen ei hun yn seciwlar.

 Mae’r rhaglen yn ddefnyddiol mewn cynyddu ymwybyddiaeth cyfranogwyr o’u profiadau (meddwl, synhwyriadau corff ac emosiynau) mewn ffyrdd sy’n cefnogi dealltwriaeth patrymau o feddwl, teimlo ac adweithio a’n galluogi i ymateb yn gynyddol yn ddewisol i heriau bywyd mewn ffordd fwy cadarn ac effeithiol. Mae’r sesiynau wythnosol yn canolbwyntio ar ymarferion myfyriol: eistedd a thalu sylw i’r anadl, corff, synau, meddyliau ac emosiynau; sganio trwy synhwyriadau’r corff; a symudiad gofalgar syml. Mae ymarferion grŵp hefyd sy’n archwilio adwaith y corff i straen ac yn archwilio dewisiadau gwahanol i’n hadweithiau arferol. Mae llawer o bobl yn gweld bod MBSR yn eu helpu i ganfod lle llonydd o’u mewn, a ffyrdd eraill o gefnogi eu lles.

Buaswn i’n cymeradwyo’r cwrs yma. Mae’n rhoi offer newydd i chi wneud dewisiadau gwahanol
— Rhian, meddyg teulu wedi ymddeol

Mae MBSR fel arfer yn cael ei ddysgu fel rhaglen grŵp 8 wythnos (2.5 awr y sesiwn). Bydd nifer y pobl yn y grŵp yn amrywio – holwch yr athro am wybodaeth. Mae’r cwrs yn cael ei ragflaenu gan sesiwn gyfeirio lle gallwch gyfarfod â’r athro ac aelodau eraill y grŵp a chael eich cyflwyno i gynnwys a fformat y cwrs. Mae diwrnod o ymarfer hefyd fel arfer ar ôl sesiwn 5 neu 6.

Mae’r cwrs i raddau helaeth yn seiliedig ar ddysgu o brofiad, ac yn cael ei arwain gan athro ymwybyddiaeth ofalgar profiadol fydd â phractis ymwybyddiaeth ofalgar dyddiol eu hunain. Mae ymarfer gartref o hyd at awr y dydd yn rhan hanfodol o’r cwrs (bydd cyfranogwyr yn gallu lawrlwytho  neu’n cael derbyn Cryno Ddisgiau o’r gwahanol ymarferion myfyrio yn ogystal â chael deunydd darllen). Mae’n bwysig felly eich bod yn ystyried  sut a ble  y gallech osod yr ymarfer gartref yn eich trefn ddyddiol. Bydd athro’r ymarfer ar gael hefyd (trwy e-bost neu ffôn) i gynnig unrhyw gefnogaeth ychwanegol sydd ei angen arnoch I helpu gyda’r cwrs.

Bu’r cwrs yn fuddiol i bob agwedd o’m bywyd ac fel canlyniad rwy’n fwy abl i fod yn agwedd gadarnhaol ym mywyd y rhai dof i gyswllt â nhw.
— Elin, cyfrifydd
Byddwn yn argymell y cwrs i bawb sy’n teimlo dan bwysau
— Eifiona , athrawes

Cyrsiau MBSR Sydd i Ddod: