Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Natur

Dringwch y mynyddoedd a’u newyddion da. Bydd heddwch natur yn llifo i mewn i chi fel y llifa heulwen i mewn i goed. Bydd y gwyntoedd yn chwythu eu hirder eu hunain i mewn i chi, a’r stormydd eu hegni, tra bydd gofalon yn syrthio i ffwrdd oddi arnoch chi fel dail yr Hydref
— John Muir

Mae gwyddoniaeth yn dal i fyny gyda’r hyn a wyddom yn reddfol – y gall bod y tu allan ym myd natur fod yn adferol a iachaol iawn. Mae’r syniad o 'ymdrochi coedwig' yn dod yn fwy poblogaidd lle mae pobl yn syml yn agor eu synhwyrau i amsugno’r profiad o fod ymhlith coed. Gall hyn fod yn annisgwyl o faethlon a darparol, gan brofi’n wrthbwynt i’w groesawu i’n bywydau prysur. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ein helpu i arafu, cydnabod a gwerthfawrogi effeithiau buddiol ein hamgylchedd naturiol. 

Yn Ymwybyddiaeth Ofalgar Gwynedd rydym yn gallu cynnig sesiynau un i un o Ymwybyddiaeth Ofalgar yn yr awyr agored. Gallai hyn ffurfio rhan o waith therapi unigol os yn briodol. Gallwn hefyd ddarparu rhaglenni wedi’u haddasu ar gyfer grwpiau bach.

Mae Tara yn cynnig cwrs 6 wythnos Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Natur i naill ai grwpiau neu unigolion. Mae’r cwrs wedi cael ei addasu o’r cwrs Lleihau Straen yn Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar gyda myfyrdodau ychwanegol ar fod gydag elfennau daear, dŵr, tân, gwynt a gofod. Mae’r rhan fwyaf o’r sesiynau yn cael eu cynnal yn yr awyr agored, os yw’r tywydd yn caniatáu. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am y cwrs 6 wythnos.