Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y Gweithle

 

Yma yn Ymwybyddiaeth Ofalgar Gwynedd cynigiwn gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar gweithle ar gomisiwn.  Mae ystod o ddewisiadau darparu gan gynnwys cyflwyniad un tro/blaswyr, Sesiynau ymwybyddiaeth misol i staff a chyrsiau wyth a chwech wythnos wedi eu haddasu sy’n gallu cael eu darparu naill ai yn lleoliad y gweithle neu mewn lleoliad addas arall.  Yn flaenorol mae nifer o sefydliadau llai wedi cronni adnoddau i gomisiynu cwrs i’w wneud yn fforddiadwy.

Nid yw cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar i’r gweithle yn atal gwrthdaro rhag digwydd na materion anodd rhag codi. Ond pan fo materion anodd yn codi... maen nhw’n fwy tebygol o gael eu cydnabod, dal, ac ymateb iddynt yn fedrus gan y grŵp. Dros amser gydag ymwybyddiaeth ofalgar, rydym yn dysgu i ddatblygu’n hadnoddau mewnol fydd yn ein helpu i lwybro trwy sefyllfaoedd anodd, heriol a dirdynnol gyda mwy o rwyddineb, cysur a gras
— Arbenigwr Ymwybyddiaeth Ofalgar Mirabai Bush, yn enwog am gyflwyno Ymwybyddiaeth Ofalgar i Google

Edrychwch ar y dolenni isod am wybodaeth ychwanegol ar resymeg ac effaith o ddod ag ymwybyddiaeth ofalgar i mewn i’r gweithle.

https://www.employment-studies.co.uk/system/files/resources/files/mp127_0.pdf

 http://oxfordmindfulness.org/news/mindfulness-workplace-effective-challenges/

Bu’r cwrs yn fuddiol i bob agwedd o’m bywyd ac fel canlyniad rwy’n fwy abl i fod yn agwedd gadarnhaol ym mywyd y rhai dof i gyswllt â nhw.
— Elin, cyfrifydd

 

dychwelyd i beth ‘dan ni’n cynnig'