Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gyfer Pobl Ifanc

 

Ymwybyddiaeth Ofalgar i rai yn eu Harddegau

Defnyddiol iawn. Mae o wedi fy helpu trwy amser caled a dwi’n teimlo’n berson gwahanol
— Poppy, disgybl ysgol

Mae Tara wedi hyfforddi gyda Gina Biegel ( sylfaenydd Stressed Teens) i ddarparu cwrs Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi ei addasu’n arbennig o addas i rai yn eu harddegau ac oedolion ifanc. Mae’r cwrs yn cynnwys 8 sesiwn o hyd at awr a hanner yr un. Mae’r ymarferion Ymwybyddiaeth Ofalgar yn fyrrach a’r myfyrdodau a phynciau trafod i gyd yn berthnasol i berson ifancach. Gellir cynnig y cwrs mewn lleoliad grŵp neu un i un. Mae’r teclynnau mae pobl ifanc yn eu dysgu trwy gymryd rhan yn y cwrs hwn yn eu helpu i leihau straen, gwella rheoli emosiynol a chynyddu gwytnwch a synnwyr gweithrediad